Permanent - Homeless Support Officer
Location: Hurst Newton Supported Living Scheme, Bersham Road, Wrexham, LL14 4HD
Hours: Full-time (37 hours per week; rolling rota including days, nights & weekends)
About The Service
Hurst Newton is a supported living scheme in Wrexham for young people aged 16-25 who are experiencing homelessness.
Our aim is to help young people build the
confidence, life skills, and independence they need to move forward all within a
safe, supportive, and structured environment.
Working here means being part of a team that genuinely cares about making a difference, every single day.
About The Role
As a
Homeless Support Officer (Project Worker), you’ll support young people on their journey toward independence in a hands-on, relationship-focused role.
You will:
- Provide practical and emotional support, helping residents develop essential life skills
- Encourage wellbeing, inclusion, and engagement with the wider community
- Support individuals with complex needs, including mental health and housing challenges
- Build positive, professional relationships while maintaining clear boundaries
- Maintain accurate and up-to-date records using internal systems
This is a
frontline role where your support can have a lasting impact on someone’s future.
Why Join Us?
- Be part of a friendly, values-driven team with ongoing training and support
- Develop your skills in supported living, complex needs, and case management
- Build a long-term career within an organisation that genuinely invests in its people
- Make a real difference — helping young people achieve stability, confidence, and independence
Who We’re Looking For
We’re looking for people who are:
- Empathetic and non-judgemental, with a genuine passion for supporting others
- Strong communicators who can build trust and positive relationships
- Resilient and calm when faced with challenging situations
- Proactive and reliable, with the ability to work independently
- Committed to our values of Trust, Hope and Kindness
If you’re someone who wants to
grow, develop, and make a meaningful impact, this could be the role for you.
Things to Consider
- This role involves working a rota including nights, weekends, and lone working
- You’ll need to feel confident managing challenging situations in a calm and professional way
Ynglŷn â’r Gwasanaeth
Mae Hurst Newton yn gynllun byw â chymorth yn Wrecsam ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy’n wynebu digartrefedd.
Ein nod yw helpu pobl ifanc i adeiladu’r
hyder, y sgiliau bywyd a’r annibyniaeth sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen — i gyd mewn amgylchedd
diogel, cefnogol a chroesawgar.
Mae gweithio yma’n golygu bod yn rhan o dîm sy’n poeni’n fawr am bobl ac sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn, bob dydd.
Ynglŷn â’r Rôl
Fel
Swyddog Cymorth Digartrefedd (Gweithiwr Prosiect), byddwch yn cefnogi pobl ifanc ar eu taith tuag at annibyniaeth mewn rôl ymarferol sy’n seiliedig ar berthnasoedd.
Byddwch yn:
- Darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, gan helpu preswylwyr i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol
- Annog lles, cynhwysiant ac ymgysylltiad â’r gymuned ehangach
- Cefnogi unigolion ag anghenion cymhleth, gan gynnwys iechyd meddwl neu heriau tai
- Adeiladu perthnasoedd cadarnhaol a phroffesiynol, gan gadw ffiniau clir
- Cadw cofnodion cywir ac wedi’u diweddaru gan ddefnyddio systemau mewnol
Mae hon yn rôl rheng flaen lle gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddyfodol rhywun.
Pam Ymuno â Ni?
- Bod yn rhan o dîm cyfeillgar sy’n cael ei arwain gan werthoedd, gyda hyfforddiant a chefnogaeth barhaus
- Datblygu eich sgiliau mewn byw â chymorth, anghenion cymhleth a rheoli achosion
- Adeiladu gyrfa hirdymor mewn sefydliad sy’n buddsoddi yn ei bobl
- Gwneud gwahaniaeth go iawn — helpu pobl ifanc i gael sefydlogrwydd, hyder ac annibyniaeth
Pwy Rydym yn Chwilio Amdano
Rydym yn chwilio am bobl sydd:
- Yn empathetig ac yn ddi-farn, gyda gwir awydd i gefnogi eraill
- Yn gyfathrebwyr da sy’n gallu adeiladu ymddiriedaeth a pherthnasoedd cadarnhaol
- Yn wydn ac yn dawel eu meddwl wrth wynebu sefyllfaoedd heriol
- Yn ragweithiol ac yn ddibynadwy, gyda’r gallu i weithio’n annibynnol
- Yn ymrwymedig i’n gwerthoedd o Ymddiriedaeth, Gobaith a Charedigrwydd
Os ydych chi’n rhywun sydd eisiau
tyfu, datblygu a gwneud gwahaniaeth go iawn, gallai hon fod yn rôl berffaith i chi.
Pethau i’w Hystyried
- Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio ar rota, gan gynnwys nosweithiau, penwythnosau a gweithio ar eich pen eich hun
- Bydd angen i chi deimlo’n hyderus wrth reoli sefyllfaoedd heriol mewn ffordd dawel a phroffesiynol