GAVO supports, facilitates and brokers positive change in the Well-being of people and communities through collaborative approaches.
Wellbeing Coach (2 Posts)
Salary Scp 30 £26,607pa
32 Hours per week Monday to Friday (Work Pattern to be agreed)
Based in Blaenau Gwent
Fixed Term until 31 March 2026
About the role
Delivering holistic well-being support to individuals in the community, leveraging the Blaenau Gwent NCN “Happy Healthy Blaenau Gwent Programme” to enhance overall health and well-being. The role will include managing a caseload of clients, providing tailored support and guidance to improve their social, emotional, and physical well-being. Collaborating with GPs, social workers, and other healthcare providers. Raising awareness of the wellbeing programme throughout the community, measuring outcomes through evaluation and impact reporting.
About you
Highly motivated and organised with a commitment to improving community well-being, the successful candidate will have relevant level 3 qualification in Health/Physical Activity and/or Social Care or equivalent professional qualification / level of experience. Good IT Skills, including Microsoft 365 packages are essential.
About Us
Gwent Association of Voluntary Organisations (GAVO) is the largest County Voluntary Council (CVC) in Wales, supported by a Board of Trustees. We deliver our services across four Local Authority areas in Gwent; Blaenau Gwent, Caerphilly, Monmouthshire and Newport.Our vision is to be the pivotal Organisation that guides and drives a society where communities, individuals and organisations work together in a culture of equality, shared ownership, responsibility and support to build a sustainable future for all.
You will receive
- 33 days’ annual leave including bank holidays plus an additional 5 GAVO holidays
- Pension scheme
- Occupational sick pay
- EAP/Well-being portal
- Cycle to Work Scheme
- Flexible working practices
No CVs accepted. Only shortlisted candidates will be contacted. These posts require an Enhanced DBS check.
GAVO is committed to working towards its workforce being more representative of the population that we serve and particularly welcomes applications from people from minority ethnic communities. Selection will be made on ability and skills to undertake the role.
Closing Date: 13:00pm on 14th February 2025
Interview Date: to be agreed
Mae GAVO yn cefnogi, yn hwyluso ac yn trefnu newid cadarnhaol i Lesiant pobl a chymunedau drwy ddulliau cydweithredol.
Hyfforddwr Llesiant (2 Swydd)
Cyflog – SCP 30 £30,765 y flwyddyn pro-rata
Gwir gyflog £26,607.56 y flwyddyn
32 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener (y patrwm gwaith i’w gytuno)
Swydd wedi’i lleoli ym Mlaenau Gwent
Cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2026
Gwybodaeth am y swydd
Darparu cymorth llesiant cyfannol i unigolion yn y gymuned, gan ddefnyddio “Rhaglen Blaenau Gwent Iach a Hapus” Rhwydwaith Gofal yn y Gymdogaeth Blaenau Gwent i wella iechyd a llesiant yn gyffredinol. Bydd y rôl yn cynnwys rheoli llwyth achosion o gleientiaid, a darparu cymorth ac arweiniad wedi’i deilwra i wella eu llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol. Cydweithio â meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol a darparwyr gofal iechyd eraill. Codi ymwybyddiaeth o’r rhaglen llesiant ar hyd a lled y gymuned, gan fesur canlyniadau drwy werthuso ac adrodd ar effaith.
Gwybodaeth amdanoch chi
Unigolyn trefnus a llawn cymhelliant sydd ag ymrwymiad i wella llesiant yn y gymuned. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster lefel 3 perthnasol mewn Iechyd, Gweithgarwch Corfforol a/neu Ofal Cymdeithasol – neu lefel profiad / cymhwyster proffesiynol cyfatebol. Mae sgiliau TG da, gan gynnwys gallu defnyddio pecynnau Microsoft 365, yn hanfodol.
Gwybodaeth Amdanom Ni
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO) yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) mwyaf yng Nghymru a gefnogir gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. Rydym yn darparu ein gwasanaethau ar draws pedair ardal Awdurdod Lleol yng Ngwent; Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd. Ein gweledigaeth yw bod yn Sefydliad canolog sy’n arwain ac yn sbarduno cymdeithas lle mae cymunedau, unigolion a sefydliadau’n gweithio gyda’i gilydd mewn diwylliant o gydraddoldeb, cydberchnogaeth, cyfrifoldeb a chefnogaeth i greu dyfodol cynaliadwy i bawb.
Byddwch yn cael
- 33 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc a 5 diwrnod ychwanegol o wyliau GAVO
- Cynllun pensiwn
- Tâl salwch galwedigaethol
- Rhaglen Cymorth i Weithwyr (EAP)/Porth llesiant
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Arferion gweithio hyblyg
Ni dderbynnir CVs. Dim ond ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer y byddwn ni’n cysylltu â nhw. Rhaid cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae GAVO wedi ymrwymo i geisio sicrhau gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r boblogaeth mae’n ei gwasanaethu, ac mae’n croesawu ceisiadau gan bobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn arbennig. Detholir ar sail gallu a sgiliau i gyflawni’r swydd.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 14 Chwefror am 1pm
Dyddiad y Cyfweliad: I’w gadarnhau